MEU Cymru
Nôl - Back

Caneuon i ganuSongs to sing Cerddoriaeth
a geiriau


Music
and words
Yn Digwydd
Telyn y Werin
Alawon a chaneuon
Tunes and songs
Folk harps
What's on

Ar lan y môr

Alaw

1. Ar lan y môr mae rhosys cochion , ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae 'nghariad inne yn cysgu'r nos a chodi'r bore.

2. Ar lan y môr mae carreg wastad, lle bûm yn siarad gair â'm cariad
O amgylch hon fe dyf y lili ac ambell sbrigyn o rosmari.

3. Ar lan y môr mae cerrig gleision,   ar lan y môr mae blodau'r meibion
Ar lan y môr mae pob rhinwedde.   ar lan y môr mae 'nghariad inne.

4. Mor hardd yw’r haul yn codi’r bore,     Mor hardd yw’r enfys aml ei liwiau
Mor hardd yw natur ym Mehefin,   Ond harddach fyth yw wyneb Elin.

5 Llawn yw’r môr o swnd a chregyn,   Llawn yw'r ŵy o wyn a melyn
Llawn yw'r coed o ddail a blodau.   Llawn o gariad merch wyf innau.

6. Dros y mor y mae fy nghalon,   Dros y mor y mae ‘ngobeithion
Dros y mor y mae f’anwylyd  Sydd yn fy meddwl i bod munud