Caneuon Stacey |
Gorffennaf 2023 July |
|||||||
|
|
Mae'r
set hon yn cefnogi gweithdy Clera's Zoom a gyflwynwyd gan Stacey Blythe
ym mis Mehefin 2023. Dangosodd sut mae trefniannau cordiau gwahanol a ddefnyddir i gyfeilio i dôn yn gallu rheoli modd a chymeriad y gân. Y tair cân a ddefnyddiodd yn y darlun hwn oedd Bwthyn fy Nain, Y Gaseg Felen a Mae'r Ddaear yn Glasu. Cyflwynir pob cân yn gyntaf gan ddefnyddio cordiau mwy confensiynol gyda threfniannau Stacey yn dilyn. Mae gennym recordiad o gyflwyniad Stacey's Zoom sydd ar gael yn rhad ac am ddim i aelodau: e-bostiwch post@meucymru.co.uk am y ddolen.. |
|
This
set supports Clera's Zoom workshop presented by Stacey Blythe in June
2023. She demonstrated how the arrangement how different arrangements of chords used to accompany a tune can control the modd and character of the song. The three songs which she used in this illustration were Bwthyn fy Nain, Y Gaseg Felen and Mae'r Ddaear yn Glasu. Each song is given first using more conventional chords and Stacey's arrangements follow. We have a recording of Stacey's Zoom presentation which is available free of charge to members: email post@meucymru.co.uk for the link. |
Chwarae'r alaw Play the melody |
1. Mae nain mewn bwthyn bach, yn
ymyl llwyn o goed Yn byw yn dedwydd iach, yn bedwar ugain oed Cytgan: Mae perllan ganddi hi, a thyddyn bychan twt, A'r ieir di-ri a'r fuwch a'r gath a'r ci A'r mochyn yn y cwt. 2. A phan fo plant y llawr yn methu byw ynghyd Mae nain yn dewydd iawn, yn dawel iawn ei byd Cytgan: Mae perllan ganddi hi, a thyddyn bychan twt, A'r ieir di-ri a'r fuwch a'r gath a'r ci A'r mochyn yn y cwt. |
Chwarae gyda
chyfeiliant 1 Play the melody with chords 1 |
|
Chwarae gyda
chyfeiliant 2 Play the melody with chords 2 |
Chwarae'r alaw Play the melody |
1. Ar y bryn mae caseg felen,
Twdl ymdi rai di rai di ro O na bawn i ar ei chefen, Twdl ymdi rai di rai di ro 2. O na chawn i bâr o adenydd, Twdl ymdi rai ... Hedfan wnawn i pan fo'r awydd. Twdl ymdi ra ... 3. O na bawn i fel yr wylan, Twdl ymdi rai ... Hedfan wnawn i'r môn fy hunan, Twdl ymdi rai ... 4. Fe fyddwn rhydd fel hydd i rhedeg, Twdl ymdi rai ... Ond yn y shafftie mae y gaseg. Twdl ymdi rai ... 5. On waeth i mi heb â siarad, Twdl ymdi rai ... Rhaid i mi aros hefo'r arad. Twdl ymdi rai ... |
Chwarae gyda
chyfeiliant 1 Play the melody with chords 1 |
|
Chwarae gyda
chyfeiliant 2 Play the melody with chords 2 |
|
Chwarae gyda
chyfeiliant 3 Play the melody with chords 3 |
|
Chwarae gyda
chyfeiliant 4 Play the melody with chords 4 |
Chwarae'r alaw Play the melody |
1. Mae'r ddaear yn glasu a'r
coed sydd yn tyfu A gwyrddion yw'r gerddi, mae'r llwyni mor llon; A heirdd yw'r eginau, a'r dail ar y dolau, A blodau'r perllannau pur llawnion. 2. Os bu yn ddiweddar wedd ddu ar y ddaear Cydganodd yr adar yn gerddgar i gyd; Gweld coedydd yn deilio a wnâi iddynt byncio, Cydseinio drwy'n hoywfro draw'n hyfryd. 3. Mae'r ddaear fawr ffrwythlo a'i thrysor yn ddigon I borthi'i thrigolion yn dirion bob dydd; Pe byddem ni ddynion mewn cyflwr heddycholon Yn caru'n un galon ein gilydd. |
Chwarae gyda
chyfeiliant 1 Play the melody with chords 1 |
|
Chwarae gyda
chyfeiliant 2 Play the melody with chords 2 |
|
Chwarae gyda
chyfeiliant 3 Play the melody with chords 3 |
|
|