Set Y Ferch o Blwy Penderyn

Set mis
Ionawr
2014
January
set
Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month
 

Mae'r ddwy alaw dawns yn y set hwn yn arwain at un o'r harddaf o'n caneuon  serch - Y Ferch o Blwy Penderyn. Saif pentref Penderyn yr ochr ddeheuol o Fannau Brycheiniog ac mae heddiw yn enwog am ei chwisgi a hefyd fel man cyrraedd y Bannau a phistyll Ystradfellte.

Two dance tunes lead to one of the loveliest Welsh songs of unrequited love - Y Ferch o Blwy Penderyn - the girl from the parish of Penderyn which is to the south of the Brecon Beacons and near the Ystradfellte waterfalls. Its Welsh whisky is well known

Y Stwffwl
The doorstop
midi
gif

Megan a gollodd ei gardas
Megan who lost her garter

midi
gif

Y Ferch o Blwy Penderyn
The girl from the parish of Penderyn

midi
gif

Set Y Ferch o Blwy Penedryn









1. 'Rwy'n caru merch o blwy' Penderyn, ac yn ei chanlyn ers lawer dydd ;
Ni allswn garu ag un ferch arall,  er pan welais 'run gron ei grudd.
Mae hi'n ddigon hawdd ei gweled,  er nad yw ond dyrnaid fach ;
Pan elo i ma's i rodio'r caeau,  fy 'nghalon glaf hi wna yn iach.

2. Pan o'wn i'n myned ar ryw fore,   yn hollol ddiflin tua am gwaith,
Mi glywn aderyn ar y brigyn  yn tiwnio'n ddiwyd ac yn faith,
Ac yn d'wedyd wrthyf innau,  "Mae'r ferch wyt ti'n ei charu'n driw
Yn martsio'i chorff y bore fory  tua rhyw fab arall, os bydd hi byw."

3. 'Rwy'n myned heno, dyn am helpo, i ganu ffarwel i'r seren syw ;
A dyna waith i'r clochydd fory  fydd torri 'medd o dan yr yw !
A than fy enw'n 'sgrifenedig   ar y tŵm wrth fôn y pren,
Fy mod i'n isel iawn yn gorwedd 
yng ngwaelod bedd o gariad Gwen.


Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month