Ar Gyfer Heddiw'r Bore |
Set mis Rhagfyr 2015 December set |
|||||||
|
|
Mae'r
set hwn wedi;i seilio ar ein carol plygain mwyaf enwog, Ar Gyfer Heddiw'r Bore.
Mae'r gwasanaeth Plygain yn parhau i oriau mân bore'r Nadolig ac wedi
rhedeg yn ddi-dor mewn rhannau o Sir Drefaldwyn ac yn brofiad
bythgofiadwy. Does dim arweiniad i'r canu, ond mae grŵpiau o gantorion
yn canu eu dewis o grol traddodiadol Gymrei ac yn ei canu gyda harmoni
tri darn sy'n estyn yn ôl llawer ymhellach na'r harmoni pedwar darn
sydd yn fwy gyfarwydd yn ein capeli heddiw. Mae ymwybyddiaeth a
gwerthfawrogiad canu Plygain wedi cynyddu dros yr hanner canrif
diwethaf. Gallwch glywed y rheswm dros hyn wrth wrando ar berfformiad y
garol gan Barti Fronolau sydd yn y cyflwyniad sydd uwchlaw. Gall Ar gyfer Heddiw'r Bore weithio fel darn offerynnol fel y''i cyflwynir isod lle cai ei ddilyn gan yr hen alaw Dŵr Glân sy'n cael ei chwarae gan Oli Wilson Dickson. yn ei gyfres Alaw Gymreig yr wythnos. cyflwynir yr alaw yn A leiaf isod, ond mae Bob Evans yn ei chanu hi ar y ffidil yn G leiaf, gan ddefnyddio'r tant G gwaelod fel drôn i roi sylfaen cadarn iddi. |
This
Christmas set is based on the most popular Plygain carol, Ar Gyfer
Heddiw'r Bore. Plygain is a
service which runs into
the early hours of Christmas morning and has done so
for centuries in Montgomeryshire:
an unforgettable experience. There is no leader to conduct the
service, but groups of singers start a traditional Welsh carol of their
choice, normally in three-part harmony which pre-dates the 20th century
four-part arrangements used in many chapels in Wales today.The
awareness and appreciation of the Plygain style of
singing has grown over the last fifty years. You can appreciate the
reason for this when you listen to the YouTube video from Parti
Fronheulog above. Ar Gyfer Heddiw'r Bore can work as an instrumental and here it is followed by a classic example of the old Welsh minor scale in Dŵr Glân (Clean water) played by Olly Wilson Dickson in his Welsh tune a week series. Presented in A minor here, Bob Evans maintains that it is best expressed on the fiddle in G minor, where droning the bottom G where appropriate gives the tune a solid foundation. |
Dŵr Glân - Oli Wilson Dickson |
1. Ar gyfer heddiw'r bore'n
faban bach, (yn) faban bach Y ganwyd gwreiddyn Jesse'n faban bach Y cadarn ddaeth o Bosra, Y deddfwr gynt ar Seina Yr iawn gaed ar Galfaria'n faban bach, (yn) faban bach Yn sugno bron Maria'n faban bach. 2. Ceid bywiol ddwfr Eseciel ar lin Mair, ar lin Mair A gwir Feseia Daniel ar lin Mair. Caed bachgen doeth Eseia, 'Raddewid roed i Adda, Yr Alffa a'r Omega ar lin Mair, ar lin Mair Mewn côr ym Methle'm Jiwda ar lin Mair. 3. Diosgodd Crist ei goron o'i wir fodd, o'i wir fodd Er mwyn coroni Seion o'r wir fodd. I blygu'i ben dihalog O dan y goron ddreiniog I ddioddef dirmyg llidiog o'i wir fodd, o'i wir fodd Er codi pen yr euog o'i wir fodd. 4. Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt I 'mofyn am y noddfa fel yr wyt. I ti'r agorwyd ffynnon a ylch dy glwyfau duon Fel eira gwyn yn Salmon fel yr wyt, fel yr wyt Am hynny, tyrd yn brydlon fel yr wyt. |
|
|