Set Codi Angor

Set mis
Ionawr
2016
January
set

Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month
 

Casglodd, addasodd  ac ysgrifennodd John Glyn Davies nifer o ganeuon Gymraeg i blant a cyhoeddodd ei gasgliad o shantis a chaneuon môr yn ei lyfr adnabyddus 'Caneuon Huw Puw' yn 1923 ac roedd Codi Angor yn un or rhain.
Cynhwysir llinell harmoni ar gyfer y gân hyfryd hon sy'n seiliedig ar recordiad y grŵp 'Ar Log'  ar y CD 'Ar Log VI'.sydd ar gael gan Gwmni Sain.
I ddilyn yn y set mae jig Sesiwn yng Nghymru a gyflwynodd y ffidlwr Gerard Kilbride yng nghweithdy Clera fel rhan o set.
Mae 'Ap Siencyn' yn alaw adnabyddus iawn yng Nghymru a dyma fersiwn ohonno yng nghywair D, fel y'i chenir gan Bob Evans.

John Glyn Davies collected, adapted and wrote many songs for children and published his shanties and sea songs in 'Caneuon Huw Puw' in 1923,  including Codi Angor (Raising Anchor).  A harmony line is included below, based on the version on the CD 'Ar Log VI' by the pioneering Welsh traditional music group 'Ar Log' - available from Sain Records.
This is followed by the jig Sesiwn yng Nghymru which fiddler Gerard Kilbride presented in a Clera workshop.
Ap Siencyn is a well known Welsh jig which is presented here in the key of D. Bob Evans plays it slowly, like a waltz.


Codi Angor
Raising anchor
Midi
Gif
Codi Angor - araf, gyda hamoni
Raising anchor - slow, with harmony

Midi
Gif
Sesiwn yng Nghymru
A session in Wales

Midi
Gif
Ap Siencyn
Jenkin's son

Midi
Gif
Set Codi Angor








1. Mae hi'n llenwi'n gyflym hogie bach,
Mae'n cwrs ni am y cefnfor.
Rhaid i ni'n bellach ganu'n iach,
Pryd gawn ni godi angor?

2. Y mae'r Blue Peter yn ei le,
Mae'n cwrs ni am y cefnfor.
Cawn weled eto Groes y De,
Pryd gawn ni godi angor?

3. Mae gwledydd pell tu draw i'r môr,
Mae'n cwrs ni am y cefnfor.
Mae heulwen yn San Salvador,
Pryd gawn ni godi angor?

4. Bydd yno llanw 'mhen yr awr,
Mae'n cwrs ni am y cefnfor.
Mae arna'i bunt i Wil Siop Fawr,
Pryd gawn ni godi angor?

5. Ffarwel fy nghariad, hir yw'r daith,
Mae'n cwrs ni ar y cefnfor.
Rwyf wedi gaddo priodi saith,
Pryd gawn ni godi angor?






Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month