Set Nadolig 2022

Set mis
Rhagfyr
2022
December
set

Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month
 

Mae'r Nos yn Fwyn ym Methlehem yn C
The night is mild in Bethlehem in C
Midi
Gif
Mae'r Nos yn Fwyn ym Methlehem yn D
The night is mild in Bethlehem in D
Midi
Gif
Wel Dyma'r Bore Gore i Gyd
This is the best morning ever
Midi
Gif
Mae Gwahoddiad
There's an invitation

Midi
Gif
Set Nadolig 2022




Dyma set ar gyfer y Nadolig, gan ddechrau gyda Mae'r Nos yn Fwyn ym Methlehem, carol swynol a ddewiswyd gan Carwyn Tywyn ar gyfer ein Zŵm Nadolig eleni, wedi'i chanu ar ar ei delyn dros strydoedd y DU. Mae'n alaw gymharol ddiweddar sy'n cael ei chyflwyno'n dda gan whannol cyfranwyr ar fideos YouTube.
Mae'r ail a'r drydedd alaw yn garolau Plygain traddodiadol sydd wedi goroesi ac yn cael eu canu o hyd mewn ardaloedd penodol yn Sir Drefaldwyn. Mae alaw Mae Gwahoddiad yn debyg iawn i'r alaw
Môn sydd eisoes yn y casgliad hwn.

This is a set for Christmas, starting with Mae'r nos yn Fwyn ym Methlehem (the night is mild in Bethlehem), a lovely carol chosen for this month's Christmas Zoom by Carwyn Tywyn who has played it on the streets across the UK. It's fairly recent in origin and easy to find on YouTube videos.
The second and third tunes are traditional Plygain carols which have survived and flourished in parts of Montgomeryshire. The melody of Mae Gwahoddiad is similar to the instumental
Môn which is in this collection.

Chwarae'r set
Play the set




Chwarae'r alaw
Play the melody



Chwarae'r alaw
Play the melody


1. Mae’r nos yn fwyn ym Methlehem
a chlyd yw’r gwely gwair,
a'r baban bach yn gwenu'n hael
ar wyneb addfwyn Mair.
2. Mae’r clychau’n canu, oll ynghyd
eu melodiau glân
a daw’r trigolion yn eu tro
i ganu geiriau’r gân:
3. Llawenydd mawr a ddaeth i'n bro,
gan atsain dros y byd;
tangnefedd ac ewyllys da
fo i'r ddaear oll i gyd.





Chwarae'r alaw
Play the melody


1. Wel dyma'r bore gore i gyd, fe roed i'r byd gwybodaeth
O eni'r gwaraidd Iesu gwyn, i'n dwyn o'n syn gamsyniaeth
Fe ddaeth ein Brenin mawr a'n Brawd mewn gwisg o gnawd genedig,
Rhyfeddol gweled Mab Duw Nêr ar fronnau pêr Forwynig.
Rhyfeddod na dderfydd yw hon yn dragywydd,
O! rhoed y di-enydd i  bob dawn adenydd
Llawenydd a gwenydd i ganu.
Nid caniad plygeiniol â'i naws yn hanesol 
I'r enaid crediniol sydd gynnes ddigonol
Ond dwyfol dewisol wedd Iesu

2. Agorwyd ffordd i'r nefol wlad  Drwy'r Meddyg rhad caredig;
Hwn ydyw'r Gŵr sy'n maddau bai,  Iachawdwr rhai sychedig.
Y sawl sy'n byw, drwy Dduw a'i ddawn,  Wrth reol iawn athrawiaeth,
O fewn i hwn mae ysbryd briw  A delw Duw'n dystiolaeth.
Mae heddwch cydwybod drwy waed y Cyfamod, 
A thân o'r nef uchod yn golau'n y gwaelod,
Fel nod wedi'i osod i'w d'wyso.
Newidir yn fuan y meddwl brwnt aflan,  
Mae'r tuedd a'r amcan at fuchedd sancteiddlan,
Croes-anian i hunan yw honno.

3. Mae Iesu mawr, Meseia mwyn,   Yn gâr, yn dwyn rhagorion;
Ei fawl sy'n llenwi'r wenllys glaer   Mewn bro a chaer uwch Or-ion.
Rhown ninnau foliant, haeddiant hir,  Bawb sydd ar dir daearol;
I'r Tad, i'r Mab, i'r Ysbryd Glân   Rhown heddiw gân gyhoeddol.
Parch calon a thafod i ben y cyfamod,  
Dangoswn eglurdod mewn cred ac ufudd-dod
Ein bod yn adnabod Duw'n obaith;
Mae'n ddyled in ddilyn pob sanctaidd orchchymyn, 
Y gŵr sy Flaguryn, pereiddiwr ein priddyn,
Fo'r testun hyd derfyn pryd hirfaith .





Chwarae'r alaw
Play the melody


1. Mae gwahoddiad inni heddiw i gadw gŵyl;
Clywch heb gêl y clych yn canu, O! cadwn ŵyl;
Gŵyl i goffa bore deddwydd
Genedigaeth Crist yr Arglwyd,
Rhoddwn foliant am y newydd, O! cadwn ŵyl.
Heddiw ganed draw ym Methlem
Yr gwir Seilo aer Caersalem
Ei addoli Ef a ddylem, O! cadwn ŵyl.

2. Y gwŷr doethion cywir deithient, ar doriad dydd,
O mor fore y cyfeirient, ar doriad dydd.
Yn hyderus caent eu harwen
gan rhyfeddol, siriol seren
I ymofyn am y bachgen, ar doriad dydd.
Yno'n hawddgar, iawn anrhegion
a ddygasant, enwog weision,
Mewn modd parchus, ddawnus ddynion, ar doriad dydd.

3. Gyda'r rhain yn deulu ffyddiog awn ninnau'n awr,
I ymofyn Crist eneiniog awn ninnau'n awr.
Awn i weled y Mab bychan
draw yn gorwedd, agwedd egwan,
Yn y preseb, Awdur anian, O! gwelwn ef.
Awn i ganfod mawr ryfeddod,
Duw a dyn yn un mewn hanfod,
Y Mesia wedi dyfod, O! gwelwn ef.

4. Crist agorodd ffordd i'n gwared, clod iddo byth,
Crist a'n dygodd o'n caethiwed, clod iddo byth.
Iesu hynod roes ei hunan
dros bechadur euog aflan
l'w waredu o feddiant Satan, clod iddo byth.
Ar ei lais, bechadur, gwrando;
nid yw'n gwrthod neb ddaw ato,
Ond yn derbyn pawb a gredo, clod iddo byth.


Setiau - Sets
A,B,C ....


Mis blaenorol
Previous month
Mis nesaf
Next month