Set Ar Dymor Gaeaf |
Set mis Rhagfyr 2020 December set |
|||||||
|
|
Chwarae'r set Play the set |
Mae'r set Nadolig hon wedi'i
seilio ar hen Carol Plygain, Ar
Dymor Gaeaf. Gallwch glywed y fersiwn sy'n cael ei chanu gan Cut Lloi, y grŵp Plygain tri llais yn y fideo YouTube isod. Hwn yw'r trac teitl ar gasgliad o garolau Cymreig traddodiadol a gyhoeddwyd gyntaf yn 2008, ar gael gan Gwmni Sain fel dadlwythiad digidol. Cyflwynir yr alaw isod yn ei chywair arferol, sef G; cyflwynir yr alaw hefyd yn D, sydd o fewn cwmpas nodau cantorion â lleisiau is. Mae'r fersiwn jig yn G yn dangos sut y gellir dehongli alaw mewn sawl ffordd ac mae'n rhedeg yn hwylus i Ffanni Blodau'r Ffair sydd eisoes wedi ymddangos yn set ddawns Cylch y Cymry yn y casgliad hwn. |
This Christmas set is based
on an old Plygain Carol, Ar Dymor
Gaeaf (in the winter season). You can hear the version sung by the 3-part harmony Plygain group Cut Lloi in the YouTube video below. It is the title track on a collection of traditional Welsh carols first published in 2008, available from Sain as a digital download. It is given below in its normal key, G and also in D below, making the top note more accessible to many singers. The jig version in G illustrates how a tune can be interpreted in many ways and runs nicely into Ffanni Blodau'r Ffair which has already appeared in the dance set for Cylch y Cymry in this collection. |
1. Ar dymor gaeaf dyma'r wyl Sydd annwyl, annwyl i'n; Boed sain llawenydd ym mhob llu Waith geni'r Iesu gwyn. Datseiniwn glod â llafar dôn Rhoed y tylodion lef, Gan gofio'r pryd y gwelwyd gwawr Eneiniog mawr y nef. 2. Ar gyfer heddiw Maban mwyn A gaed o'r forwyn Fair; Ac yno gweled dynol ryw Ogoniant Duw y Gair. Mab Duw Gorucha'n isa'n awr, Mewn preseb lle pawr ych; O gwelwch, luoedd daear lawr Diriondeb mawr y drych. 3. Wel dyma gysur mawr i'r gwan Sydd beunydd dan ei boen, Fod gwên maddeuant, meddiant mwyn, Yn wyneb addfwyn Oen. Mae'n galw drwy'r efengyl bêr Ar bawb yn dyner: 'Dewch! 'Nesewch at aur gynteddau'r Tad Trugaredd rad a gewch." 4. Fe bery cariad Iesu cu Fyth i'w ryfeddu'n faith, Datganu ei fawl, ryglyddawl glod, Sydd ormod, gormod gwaith. Hyn oll yn awr a allwn ni, Sef lawen godi llef; Pa fodd yn well i seinio clod Cawn wybod yn y nef. |
Chwarae'r alaw Play the melody |
Chwarae'r alaw Play the melody |
Chwarae'r alaw Play the melody |
|
Chwarae'r alaw'n araf Play the tune slowly |
Chwarae'r alaw Play the melody |
|
Chwarae'r alaw'n araf Play the tune slowly |
|
|