Set Ar Lan y Môr |
Set mis Gorffennaf 2017 July set |
|||||||
|
|
Chwarae'r set Play the set |
Dyma
set amserol am yr haf sy'n addas i ddechreuwyr. Mae'n dechrau gyda'r
gân boblogaidd-Ar Lan y Môr. Ceir dau wahanol amser yma, sef naill ai 3 neu 4 curiad i'r bar, gan fod y ddau fersiwn yn cael eu canu, yn dibynnu ar ba mor hir mae'r gair Môr yn cael ei ddal. Mae Heno, Heno yn suo-gân boblogaidd-arall, yn lleddfu'r babi i gysgu. Yn y set hon, mae'n cael ei chwarae'r eilwaith yn gyflymach er mwyn arwain i mewn i'r trydydd alaw, Pwt-ar-y bys. Fel arfer, mae'r alaw yn cael ei ymhelaethu fel mae un o'n setiau eraill yn dangos. |
This
is a timely summer set for beginners, starting with the well-loved song
Ar Lan y Môr (on the sea shore). Two different
timings are given here, 3 or 4 beats to the bar, as both versions are
sung, depending on how long the word Môr
is sustained. Heno, heno (tonight, tonight) is another well-loved song, a lullaby to soothe the baby to sleep. In this set, it is played a second time at a faster pace in order to lead into the third tune, Pwt ar y bys (a touch on the fingers although sometimes called Buttered peas which is an Englisih interpretation of how the Welsh sounds. The melody is normally elaborated as given in a previous set. |
Chwarae'r alaw Play the melody |
1. Ar lan y
môr mae rhosys cochion , ar lan y môr mae lilis gwynion Ar lan y môr mae 'nghariad innau yn cysgu'r nos a chodi'r bore. 2. Ar lan y môr mae carreg wastad, lle bûm yn siarad gair i'm cariad O amgylch hon fe dyf y lili ac ambell sbrigyn o rosmari. 3. Ar lan y môr mae cerrig gleision, ar lan y môr mae blodau'r meibion Ar lan y môr mae pob rhinweddau. ar lan y môr mae 'nghariad innau 4. Llawn yw’r môr o swnd a chregyn, Llawn yw'r wy o wyn a melyn Llawn yw'r coed o ddail a blodau. Llawn o gariad merch wyf innau. 5 Dros y mor y mae fy nghalon, Dros y mor y mae ‘ngobeithion Dros y mor y mae f’anwylyd Sydd yn fy meddwl i bod munud 6. Mor hardd yw’r haul yn codi’r bore, Mor hardd yw’r enfys aml ei liwiau Mor hardd yw natur ym Mehefin, Ond harddach fyth yw wyneb Elin. |
Chwarae'r alaw Play the melody |
Chwarae'r alaw Play the melody |
|
Chwarae'n gyflym Play fast |
|
Canu'r gân Sing the song |
Heno, heno, hen blant bach, Heno, heno, hen blant bach, Dime, dime, dime, hen blant bach, Dime, dime, dime, hen blant bach. Gwely, gwely, hen blant bach, Gwely, gwely, hen blant bach, Dime, dime, dime, hen blant bach, Dime, dime, dime, hen blant bach. Fory, fory, hen blant bach, Fory, fory, hen blant bach, Dime, dime, dime, hen blant bach, Dime, dime, dime, hen blant bach. |
Chwarae'r alaw Play the melody |
|
Chwarae'n araf Play Slowly |
|
|