Set Llongau Caernarfon |
Set mis Awst 2021 August set |
|||||||
|
|
Chwarae'r set Play the set |
|
Chwarae'r set yn araf Play the set slowly |
Mae'r
set hon yn dechrau gyda'r alaw hyfryd Llongau Caernarfon, gyda'r
geiriau gan y chwedlonol J Glyn Davies. Ysgrifennodd ef lawer o ganeuon
i blant a llawer ohonynt yn ymwneud â'r dyddiau llongau hwylio yr oedd
yn eu cofio yn y dociau yn Lerpwl pan yn blentyn. Ni chollodd erioed
ysfa ei blentyndod i fynd i'r môr, teimlad sydd wedi'i bersonoli yn y
gân hon. Dywedir bod yr alaw yn Sgandinafaidd yn wreiddiol; mae'n
gweddu mor hyfryd i'r geiriau a'r dyhead i fod yn forwr. Cynhwysir
fersiwn mewn Dm yn gyntaf ar gyfer lleisiau is, ond y fersiwn yn Em
sy'n cael ei defnyddio gyda'r set a recordiwyd. Mae Ali Grogan yn jig boblogaidd ar gyfer dawnsio a dyma dôn thema un o'r setiau ar CD Y Glerorfa, lle mae'n dechrau ac yn gorffen y set, gan ffurfio brechdan o gwmpas y gweddill; fe'i hailadroddir yn yr un modd ar ddiwedd y set hon. Mae'r drydedd dôn, Rachel T hefyd wedi'i chymryd o set Brechdan Ali. |
This set
starts with the lovely Llongau
Caernarfon (Caernarfon's
ships), written
by the legendary J Glyn Davies who wrote lots
of songs for children and ones related to the days of sailing ships
which he remembered as a boy in the docks in Liverpool. He never lost
his
childhood urge to go to sea, a sentiment personified in this song. The
melody is said to be Scandinavian originally; it so aptly fits the
words and the yearning to be a sailor. A D minor version is shown first
for lower voices but the Em version is used in the recorded set to fit
in with the other tunes Ali Grogan (Aly Grogan) is a poplular jig for dancing and is the theme tune for one of the sets on the Clerorfa CD, where it starts and ends the set, forming a sandwich (brechdan) with the other tunes as a filling; it is similarly repeated at the end of this set. The third tune, Rachel Tŷ Cam (Rachel Crooked House) is also taken from the Brechdan Ali set. |
Chwarae'r gân Play the song |
1. 'Mae'r holl longau wrth y cei yn llwytho Pam na chawn i fynd fel pawb i forio? Dacw dair yn dechrau warpio, ac am hwylio heno Birkinhead, Bordô a Wiclo.' Toc daw'r stemar bach i dowio Golau gwyrdd ar waliau wrth fynd heibio. 2. Pedair llong wrth angor yn yr afon Aros teit i fynd tan Gastell C'narfon Dacw bedwar golau melyn, a rhyw gwch ar gychwyn Clywed swn y rhwyfau wedyn Toc daw'r stemar bach i dowio Golau coch ar waliau wrth fynd heibio. 3. Llongau'n hwylio draw a llongau'n canlyn Heddiw, fory ac yfory wedyn Mynd â'u llwyth o lechi gleision Dan eu hwyliau gwynion Rhai i Ffrainc a rhai i'r Werddon O na chawn i fynd ar f'union Dros y môr a hwylio'n ôl i Gaernarfon. 4. Holaf ym mhob llong ar hyd yr harbwr Oes 'na le i hogyn fynd yn llongwr A chael spleinsio rhaff a rhiffio A chael dysgu llywio A chael mynd mewn cwch i sgwlio O na chawn i fynd yn llongwr A'r holl longau'n llwytho yn yr harbwr |
Chwarae'r alaw Play the melody |
Chwarae'r alaw Play the melody |
|
Chwarae'r alaw'n araf Play the tune slowly |
Chwarae'r alaw Play the melody |
|
Chwarae'r alaw'n araf Play the tune slowly |
|
|